Y Pwyllgor Busnes |
Lleoliad: |
Presiding Officer’s office, 4th floor - Tŷ Hywel |
|
|
||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 7 Hydref 2014 |
|
|||
Amser: |
08.30 - 08.44 |
|
|||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion: Preifat |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Pwyllgor: |
|
Y Fonesig Rosemary Butler (Cadeirydd) Paul Davies Jane Hutt Elin Jones Aled Roberts |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Aled Elwyn Jones (Clerc)
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Eraill yn bresennol: |
|
Christopher Warner, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaethau’r Siambr a Deddfwriaeth Craig Stephenson Peter Greening, Llywodraeth Cymru
|
|||
|
|
||||
1 Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau
Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Dirprwy Lywydd.
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Mewn ymateb i ymholiad Elin Jones yn y cyfarfod diwethaf, rhoddodd y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth y wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am gyfrifoldebau'r Dirprwy Weinidog Iechyd.
Nododd y Pwyllgor y cofnodion i'w cyhoeddi.
3 Trefn busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth am y newidiadau i Fusnes y Llywodraeth ddydd Mawrth.
Bydd y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.
3.2 Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Mae'r Llywodraeth wedi symud y ddwy sesiwn Cwestiynau Llafar y Cynulliad a drefnwyd yn wreiddiol ar gyfer dydd Mercher 15 Hydref i ddydd Mawrth 14 Hydref.
Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
3.3 Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf
Yn unol â Rheol Sefydlog 11.5(iv), penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes trwy gyfrwng pleidleisio wedi'i bwysoli. Pleidleisiodd Llafur a Phlaid Cymru o blaid symud busnes 15 Hydref i gyfarfodydd eraill oherwydd y gweithredu diwydiannol disgwyliedig gan staff y Comisiwn a staff Llywodraeth Cymru, tra pleidleisiodd y Ceidwadwyr Cymreig a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn erbyn symud y busnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i amserlennu’r eitemau canlynol o fusnes:
Dydd Mawrth 21 Hydref 2014 -
· Dadl ar Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (60 munud) - eitem wedi'i symud o 15 Hydref.
· Dadl Fer - Aled Roberts (Gogledd Cymru) (30 munud) - eitem wedi'i symud o 15 Hydref.
Dydd Mercher 22 Hydref 2014 -
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) - eitem wedi'i symud o 15 Hydref.
Dydd Mercher 5 Tachwedd 2014 -
· Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud)
· Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar yr Ymchwiliad i Anghymhwyso person rhag bod yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Dadl Fer - Mike Hedges (Dwyrain Abertawe) (30 munud)
3.4 Dadl Aelod Unigol: Dewis y Cynnig ar gyfer y Ddadl
Nododd y Rheolwyr Busnes na chafodd unrhyw gynigion eu cyflwyno gan Aelodau unigol ar gyfer dadl ar 15 Hydref. Oherwydd y gweithredu diwydiannol a drefnwyd ar y diwrnod hwnnw, cytunodd y Rheolwyr Busnes na fyddai'r eitem yn cael ei haildrefnu.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid trefnu Dadl Aelod Unigol arall ar gyfer dydd Mercher 3 Rhagfyr 2014, gan gymryd camau i annog Aelodau i gyflwyno cynigion.